CONSULTATION ON THE HOLIDAY CARAVAN SITES (WALES) BILL

 

1.       INTRODUCTION

1.1.    This submission is being sent on behalf of Conwy County Borough Council.

1.2.    A local authority has the responsibility to licence caravan sites.

2.       GENERAL PRINCIPLES OF THE HOLIDAY CARAVAN SITES (WALES) BILL

2.1.    Conwy County Borough Council supports the laudable intentions of the proposed legislation.

2.2.    The manner in which sites are occupied in the present day compared with the 1960’s when the current legislation came into force is very different.

2.3.    There are a number of reasons for this including; improvements in the structure of caravans allowing more use during cold weather, greater leisure time being available and better transport and infrastructure allowing quicker access to sites.

2.4.    This has made it more difficult to ensure that caravans on holiday sites are used for that sole purpose and not as residential caravans.

3.       PARTS OF THE BILL

3.1.    Licensing (Part 2)

3.1.1.  The Bill proposes that a site must be inspected once every 3 years and a review of the licence conditions every 5 years. However, it also proposes that once a licence is issued it lasts indefinitely.

3.1.2. Conwy CBC welcomes the requirement to inspect once every 3 years rather than annually.

3.1.3. It is understood that the industry would like to have the security that a licence would be renewed to have the confidence to reinvest in the site. Conwy CBC acknowledges that this is a reasonable consideration and also welcomes the opportunity to charge for the inspection and review of the sites.

 

3.2.    Residence test (Part 3)

3.2.1.  The intention of this test is to be welcomed. However, it is difficult to see how it will work in practice. The owners of caravans may let their caravan without notifying the site licence holder on very large sites it could be very difficult for licence holders to keep track.

3.2.2. Section 9 (3) places the onus of undertaking the residency test on the ‘owner’. We assume this is the owner of the caravan site and not the owner of the caravan but this needs clarifying. It would be preferable to place the onus on the site licence holder as this may be different to the site owner.

3.2.3. The residency test needs only be applied to an occupier of a caravan the definition of which is someone who occupies a caravan on the same site for more than 28 days in any consecutive 3 month period. To keep a check on this could be burdensome on the site licence holder/owner.

 

3.3.    Holiday Caravan Agreements (Part 4)

3.3.1.  Agree with the contents of this part.

3.4.    Protection from harassment (Part 5)

3.4.1. Agree with the contents of this part

3.5.    Supplement and general (Part 6)

3.5.1. Agree with the contents of this part.

4.       POTENTIAL BARRIERS

4.1.    Any concerns with regard to the Bill have been raised above

5.       UNINTENDED CONSQUENCES

5.1.    There is a concern that an assumption is made that occupiers of holiday caravans would have sufficient resources to fund alternative accommodation. That is unlikely to be the case the occupiers assets are likely to have been consumed in purchasing the caravan which would have devalued very quickly. These occupiers will be likely to present themselves as homeless to the local authority that will have legal obligations towards them. It is accepted however, that this would not be an ongoing issue if the proposed legislation meets its objectives.

6.       FINANCIAL IMPLICATIONS

6.1.    The proposals set out are based on sound reasoning and assumptions.

7.       POWERS TO MAKE SUBORDINATE LEGISLATION

7.1.    No comments

 

 

YMGYNGHORIAD AR Y BIL MEYSYDD CARAFANNAU GWYLIAU (CYMRU)

1.       CYFLWYNIAD

1.1.    Mae'r cyflwyniad hwn  yn cael ei anfon ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

1.2.     Mae awdurdod lleol yn  gyfrifol am drwyddedu  meysydd carafannau.

2.        EGWYDDORION CYFFREDINOL Y BIL MEYSYDD CARAFANNAU GWYLIAU (CYMRU)

2.1.     Mae  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cefnogi bwriadau canmoladwy'r ddeddfwriaeth arfaethedig.

2.2.    Mae'r modd mae safleoedd yn cael eu meddiannu heddiw o'i gymharu â'r 1960au pan ddaeth y ddeddfwriaeth bresennol i rym yn wahanol iawn.

2.3.     Mae nifer o resymau dros hyn, gan gynnwys; gwelliannau yn strwythur carafannau sy’n  caniatáu mwy o ddefnydd yn ystod tywydd oer, mwy o amser hamdden ar gael a gwell  trafnidiaeth a seilwaith sy'n caniatáu mynediad cyflymach i safleoedd.

2.4.    Mae hyn wedi ei gwneud yn anoddach i sicrhau bod y carafannau ar safleoedd gwyliau yn cael eu defnyddio ar gyfer y diben hwnnw yn  unig ac nid fel carafannau preswyl.

3.       RHANNAU O'R BIL

3.1.    Trwyddedu  (Rhan 2)

3.1.1.  Mae'r Bil yn cynnig bod yn rhaid i safle gael ei archwilio unwaith bob 3 blynedd ac adolygiad o amodau'r drwydded bob 5 mlynedd. Fodd bynnag, mae hefyd yn cynnig unwaith mae trwydded yn  cael  ei chyflwyno y  bydd yn parhau am gyfnod amhenodol.

3.1.2. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn croesawu’r gofyniad i archwilio unwaith bob 3 blynedd yn hytrach na phob blwyddyn.

3.1.3. Deellir y byddai’r diwydiant yn dymuno cael y sicrwydd y byddai trwydded yn cael ei hadnewyddu i gael yr hyder i ail-fuddsoddi yn y safle.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydnabod bod hyn yn ystyriaeth resymol a hefyd yn croesawu'r cyfle i godi tâl am yr archwiliad hwn ac adolygu'r safleoedd.

3.2.    Prawf preswylio (Rhan 3)

3.2.1.  Mae bwriad y prawf hwn yn cael ei groesawu. Fodd bynnag, mae'n anodd gweld sut y bydd yn gweithio'n ymarferol.  Efallai y bydd perchnogion carafannau’n gosod eu carafán heb hysbysu deiliad y drwydded safle ar safleoedd mawr iawn a allai fod yn anodd iawn i ddeiliaid trwydded gadw trac.

3.2.2. Mae adran 9 (3) yn rhoi’r cyfrifoldeb o gynnal y prawf preswylio ar y 'perchennog'.  Rydym yn cymryd yn ganiataol mai  perchennog y maes carafannau yw  hwn  ac nid perchennog y garafán ond mae angen egluro  hyn. Byddai'n well gosod y cyfrifoldeb ar ddeiliad y drwydded safle gan y gall hwn fod yn wahanol i berchennog y safle.

3.2.3. Mae’r prawf preswyl ond angen  bod  yn berthnasol  i feddiannydd carafán y  diffiniad ohonynt yw rhywun sy'n meddiannu carafán ar yr un safle am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 3 mis yn olynol. Gallai cadw llygad ar hyn fod yn faich ar ddeiliad/perchennog y drwydded safle.

 

3.3.    Cytundebau Carafan Gwyliau (Rhan 4)

3.3.1.  Cytuno gyda chynnwys y rhan hon.

3.4.    Diogelu  rhag aflonyddwch (Rhan 5)

3.4.1. Cytuno gyda chynnwys y rhan hon

3.5.    Atodiad a chyffredinol (Rhan 6)

3.5.1. Cytuno gyda chynnwys y rhan hon.

4.       RHWYSTRAU POSIBL

4.1.    Mae  unrhyw bryderon o ran y Bil wedi cael eu codi uchod.

5.       CANLYNIADAU  ANFWRIADOL

5.1.    Mae yna bryder bod rhagdybiaeth yn cael ei wneud y byddai gan ddeiliaid carafannau gwyliau ddigon o adnoddau i ariannu llety arall. Mae hynny'n annhebygol o fod yn wir, mae asedau deiliaid yn debygol o fod wedi cael eu defnyddio i brynu'r garafán a fyddai wedi dibrisio’n gyflym iawn. Bydd y deiliaid hyn yn debygol o gyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref i'r awdurdod lleol a fydd â rhwymedigaethau cyfreithiol tuag atynt. Derbynnir, fodd bynnag, na fyddai hyn yn broblem barhaus os yw'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cyflawni ei hamcanion.

6.       GOBLYGIADAU ARIANNOL

6.1.    Mae'r cynigion a nodir yn seiliedig ar ragdybiaethau a  rhesymu  cadarn.

7.       PWERAU I WNEUD IS-DDEDDFWRIAETH

7.1.    Dim sylwadau.